Expert IT Consultants
Trustworthy Brands
BOOK A DEMO
English Version
Diolch i’w ryngwyneb deuol, bydd yn cael argraff bositif hefyd ar fyfyrwyr ifanc. Mae’r bysella chwim unigryw yn gwneud llywio rhwng eich hoff apiau, bwrdd gwyn rhyngweithredol, cyfrifiadur ac unrhyw ffynhonnell arall yn rhwydd iawn. Cewch luniau clir, lliwiau byw, a phrofiad ysgrifennu hawdd ei ddeall sy’n cynnwys nodwedd RS+ sy’n adnabod ysgrifbin, bys a dwrn.
Mae Newline RS+ yn cynnwys yr offer ecosystem rhyngweithiol canlynol i Android:
Ystafelloedd dosbarth cymedrol a mawr Yn gwasanaethu 20+ o bobl Dangosydd a awgrymir: VN75, VN86
Ystafelloedd cymedrol a mawr Yn gwasanaethu 15+ o bobl Dangosydd a awgrymir: X, VN
Ystafelloedd darlithio cymedrol a mawrYn gwasanaethu 50+ o boblDangosydd a awgrymir: RS, NT85
Mannau astudio a chwrdd bach Yn gwasanaethu rhwng 2 a 10 o boblDangosydd a awgrymir: RS
Bydd y fideo’n esbonio ichi sut i osod ‘Bysellau Chwim’ i lansio’ch hoff apiau. Hefyd, cewch ddefnyddio ‘File Commander’ i fynd yn syth at gynnwys yn y cwmwl neu o yriannau caled allanol.
Mae offer digidol Newline yn eich helpu i gadw a rhannu’ch nodiadau’n ddi-wifr. Cydrannwch â hyd at 200 o gyfranogion sydd wedi’u cysylltu gan ddefnyddio ebost, y cwmwl, côd QR neu’r gyriant caled allanol.
Cewch rannu i’r sgrîn Newline o ddyfeisiau eraill, arddangos nifer fawr o gyflwynwyr, rhannu sgrinau, fideos a ffeiliau gyda chyfleuster anodi dwy-ffordd.
Mae’r OPS-PC (WINDOWS) yn cydweddu’n llwyr ag unrhyw feddalwedd addysgol a Windows.
Cofrestrwch isod os carech chi drefnu mini-diwtorialau i’ch athrawon. Mae Newline wedi cynllunio mini-diwtorialau sy’n para rhyw 15 munud, gydag amser ychwanegol wedyn ar gyfer Holi ac Ateb. Mae’r testunau’n cynnwys:
Gellir rhagdrefnu tiwtorialau ar gyfer prynhawn Llun neu Wener; cysylltwch â ni trwy’r ffurflen isod i drefnu sesiynau hyfforddiant rhithiol.
Cofrestrwch ar gyfer Hyfforddiant Technegol AM DDIM
Dangosydd: X Series, VN SeriesMeddalwedd: Newline Display Management,eich dewis o feddalwedd UC Ategolion: PC cynwysedig, gosodiad wal, Camera Newline 4K (ar gyfer Cyfres VN)
Rheoli eich holl ddangosyddion Newline yn ganolog o unrhyw leoliad trwy gyfrwng gwe-borth diogel. Defnyddio apiau’n ddi-drafferth, ffurfweddu gosodiadau dangosydd, defnyddio arwyddion digidol neu ddarlledu negeseuon i bob dangosydd.
Cydrannu eich sgrîn yn hawdd o unrhyw ddyfais.
Rheoli ac anodi o’r dangosydd Newline neu o’ch dyfais eich hun, heb golli’r rhyddid i gerdded o gwmpas yr ystafell.
Cydrannu’r dangosydd Newline mewn amser real ag unrhyw gyfrannog sydd wedi’i gysylltu. Gwahodd hyd at 200 o gyfranogion yn hawdd i gysylltu eu dyfeisiau, eu hunain o ystafell ddosbarth, darlithfa neu unrhywle arall yn y byd trwy gysylltiad rhwydweithiol.