Gwasanaethau Argraffu Wedi’u Rheoli

Gall Gwasanaethau Argraffu Wedi’u Rheoli eich helpu i arbed arian ac adnoddau trwy bennu’n fanwl eich 'defnydd o argraffu’ yn erbyn eich 'anghenion argraffu’.

Fel cyflenwr annibynnol mae Comcen wedi darparu atebion argraffu effeithiol ers mwy na 30 mlynedd ar gyfer y sector cyhoeddus a busnesau Prydeinig.

Mae Ateb Argraffu Wedi’i Reoli yn cwmpasu’r holl agweddau ar eich busnes sy’n ymwneud ag argraffu, gan gwmpasu eich caledwedd argraffu i gyd megis cyfarpar argraffu,argraffwyr amlddefnydd (MFP) a llungopïwyr, ac arbed ichi amser, arian ac ynni.

Contact Comcen



Buddion Gwasanaethau Argraffu Wedi’u Rheoli (MPS) Comcen

Bydd Comcen MPS yn rheoli’r broses o gynhyrchu eich holl ddogfennau gan anelu at y canlyniad gorau posibl. Y nod yw:

MPS Increased Productivity

Cynyddu Eich Cynhyrchiant

Trosglwyddwch yr holl waith o bwrcasu, cynnal a chadw a diweddaru eich cyfarpar argraffu o’ch adran TG i Comcen.

MPS Reduced Costs

Lleihau Eich Costau Gweithredu

Mantolwch eich rhwydweithiau argraffu, gan ehangu neu leihau eu cwmpas a thalu am ddim ond yr hyn a ddefnyddiwch chi.

AWS Scale

Cadw Rheolaeth ar Ddiogeledd Eich Data

Gwellwch gyfrinachedd â chodau dilysu er mwyn gallu cyrchu dogfennau wrth y peiriant argraffu gan ddiogelu eich data.

MPS Environmental Impact

Lleihau Eich Effaith Amgylcheddol

Lleihewch wastraff o 30% trwy gyfyngu ar argraffu’n ddyblyg a rhagosod opsiynau ochr ddwbl a du a gwyn.

MPS Products

Mwyafu Eich Prosesau

Gwiriwch fod gennych y cynhyrchion sy’n cyfateb orau i’ch anghenion, gan osgoi dyfalu capásiti a gor-gyflenwi.

Refresh Print Solution

Adnewyddwch Eich Atebion Argraffu

Fe ddangoswn ni ichi sut gallwch fanteisio yn y pendraw ar well atebion argraffu.

Managed Print Services

Arbediadau

Fel man cychwyn fe gynhaliwn ni archwiliad cynhwysfawr ar eich gweithgareddau argraffu, i roi i ni ac i chi well dealltwriaeth o’r nifer a’r math o ddogfennau a gynhyrchir gennych o ddydd i ddydd, a’n galluogi ni felly i ddatblygu’r ateb sydd orau i’ch busnes chi.



Awgryma ein profiad blaenorol y gellir arbed hyd at 30% ar gostau argraffu trwy reoli’r fflyd argraffu’n rhagweithiol. Fe gynigia Gwasanaethau Argraffu Wedi’u Rheoli (MPS) Comcenwell ddealltwriaeth ichi o gyfanswm eich  costau argraffu. Rydym yn deall y frwydr dros gadw gwariant dan reolaeth a monitro defnydd mewn amgylchiadau argraffu cynyddol gymhleth.

Gellid arbed rhagor drwy wella reolaeth fflyd, gofynion o ran cynnal a chadw a’ch anghenion o ran diogeledd. Ar sail asesiad cynhwysfawr di-dâl o’ch gweithgareddau argraffu, gallwn greu rhaglen bwrpasol sy’n gadael i bobl, prosesau a thechnolegau weithio’n ddi-dor gyda’i gilydd er mwyn ichi gyflawni eich nodau sefydliadol.


Mae defnyddio Gwasanaethau Argraffu Wedi’u Rheoli Comcen yn golygu y gall eich tîm ddal i ganolbwyntio ar eich gwaith gan roi’r gorau i bryderu am gynnal a chadw peiriannau argraffu a chyflenwadau. Ni waeth am faint eich busnes, bydd Gwasanaeth Argraffu Wedi’i Reoli Comcen yn eich rhoi chi wrth y llyw.

Contact Comcen

Our Managed Print Services (MPS) partners

Brother Logo
Canon Logo
Xerox
See all Partners
Cwestiynau ynghylch Arbed Arian
  • Garech chi arbed arian trwy orfodi argraffu gwyn a du neu drwy sicrhau mai dim ond pobl awdurdodedig sy’n cael argraffu mewn lliw?
  • Garech chi arbed arian trwy atal tasgau argraffu gwastraff rhag cael eu taflu i’r bin sbwriel?
  • Garech chi sicrhau bod pobl yn argraffu bob amser ar y ddyfais sydd fwyaf cost-effeithiol?
  • Garech chi fod yn ymwybodol o’r costau argraffu a chopïo ar draws eich sefydliad?
  • Ydy deall eich effaith ar yr amgylchedd yn bwysig i’ch sefydliad chi?
  • Ydych chi’n arfer gweld pentyrrau o dasgau argraffu a gwastraff heb eu casglu o gwmpas eich peiriannau argraffu a’ch Dyfeisiau Amlddefnydd?
  • Garech chi ei gwneud hi’n bosibl i’ch staff a’ch gwahoddedigion argraffu oddi ar eu dyfeisiau symudol heb iddynt orfod talu am feddalwedd ychwanegol?

Latest IT News

ARCHWILIAD ARGRAFFU YN RHAD AC AM DDIM?

Ni fydd Archwiliad Argraffu Comcen yn cymryd llawer o’ch amser chi. Er mwyn cynnig ichi’r cyngor gorau a’r opsiynau gorau , byddai ein harbenigwyr MPS yn gofyn ichi am yr wybodaeth ganlynol am y peiriannau argraffu a chopïau sydd gennych chi ar eich safle ar hyn o bryd:

MPS Mono Print

Cost a chyfaint anfonebau gwasanaeth unlliw

MPS Colour Print

Cost a chyfaint anfonebau gwasanaeth aml-liw

Paper Consumption

Cyfanswm a chost y papur a ddefnyddir

MPS Outsourced Printing

Unrhyw waith argraffu neu ddeunydd marchnata a ddarperir gan gyflenwyr allanol

MPS Laser Jet

Cost a chyfaint deunyddiau argraffu laser a chwistrell, unlliw ac aml-liw

MPS Contracts

Copi o unrhyw gontractiau prydlesu neu rentu sydd gennych a’r gost

Contact Comcen about MPS:

Send